Ffrwyth blynyddoedd o lafur diflino yw "Hela'r Hen Ganeuon". Mae'r gyfrol nodedig hon yn trafod hanes casglu caneuon gwerin Cymru o gyfnod Iolo Morganwg, yna Ifor Ceri a Maria Jane Williams, hyd at gyfraniad unigryw John Lloyd Williams i'r mudiad canu gwerin ar ddechrau'r ugeinfed ganrif. Mae'r awdur yn dadansoddi rhai gweddau cerddorol ar ein caneon gwerin, ac yn gosod eu cefndir a'u cyd-destun cymdeithasol.
Roedd eisteddfodau Cymru'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, fel eisteddfodau y Fenni, yn gyfrwng pwysig i gasglwyr ac unawdwyr alawon a chaneuon gwerin. A chyda twf cylchgronau fel "Y Cerddor Cymreig" a'r "Perl Cerddorol" roedd modd cadw'r caneuon gwerin yn fyw. Mae dyfyniadau cerddorol o ganeuon cyfarwydd ac anghyfarwydd yn frith drwy'r gyfrol, ac mae hanes sefydlu Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn 1906, a'r cecru a fu wrth wneud hynny, yn cael sylw haeddiannol.