Mr Swansea
Hunangofiant Mel Nurse, wedi'i ysgrifennu gan Pete Welsh. Bu Mel Nurse yn chwarae i dim pêl-droed Abertawe mewn dau gyfnod rhwng 1955 ac 1971, a hefyd yn cynrychioli'i wlad yn ystod oes aur pêl-droed Cymru, ochr-yn-ochr â chewri fel y brodyr Charles, Ivor Allchurch a Cliff Jones.