Yn y gyfrol hon cyflwynir detholiad o'r teyrngedau a'r negeseuon a gyflwynwyd er cof am Tomos Befan Owen, Cynhyrchydd Chwaraeon dawnus BBC Cymru am ddeng mlynedd; casgliad o ffotograffau yn darlunio gwahanol agweddau o'i fywyd; a detholiad o'i ysgrifau, gan gynnwys ei golofn wythnosol ar wefan BBC Cymru'r Byd, "Wythnos Gron", Mawrth-Rhagfyr 2008.
Bydd ei sylwadau craff ar y prif ddatblygiadau yn y byd chwaraeon yng Nghymru o ddiddordeb arbennig i ddilynwyr amrywiol chwaraeon Cymru.
Bu farw Tomos yn Ionawr 2009 ar ol brwydr ddewr yn erbyn leukaemia:trosglwyddir elw gwerthiant y gyfrol i Gronfa Tomos Owen Leukaemia Fund.