Mae Nigel Owens yn un o ddyfarnwyr rygbi gorau'r byd. Fe'i dewisiwyd fel yr unig ddyfarnwr o Gymru ar gyfer Cwpan y Byd 2007 a bu'n gyfrifol am ddyfarnu rhai o gemau mwyaf allweddol 2008.
Ond cyn cyrraedd uchelfannau'r byd rygbi bu trwy argyfwng personol dirdynnol. Am flynyddoedd ni allai wynebu'r hyn ydoedd - roedd person y tu mewn iddo yn trio dod mas... Ef oedd y person cyntaf i "ddod mas" fel dyn hoyw yn y byd rygbi proffesiynol. Ers gwneud hynny, newidiodd ei fywyd er gwell, a blodeuodd ei yrfa rygbi a darlledu.
Yn y gyfrol hon mae Nigel yn gwbl onest am ei fywyd personol a chyhoeddus, fel dyfarnwr a diddanwr. Mae'r tudalennau'n byrlymu o'r hiwmor a'r cynhesrwydd a'i gwnaeth yn un o'r cymeriadau mwyaf poblogaidd ar lwyfannau a meysydd rygbi trwy Gymru a thu hwnt.
Fersiwn Gymraeg ar gael: "Hanner Amser".