Hands-Free Welsh
Dechreuwch ddysgu Cymraeg heddiw trwy wrando ar eiriau, ymadroddion a sgyrsiau go-iawn. Gallwch chwarae'r ddau CD yn y car, ar y traeth - neu gartref yn y bath! Mae'n hwyl - ac mae'n effeithiol. Addas ar gyfer dechreuwyr neu ddysgwyr sydd am wella'u hynganiad. Mae'r cwrs hefyd yn cynnwys llyfryn 56 tudalen.