Ym 1876 cawn ein cyflwyno i Elfed Evans ac Edward Jones - Elfed o Gwm Tryweryn ac Edward o'r Celyn, dau fachgen a'u cyfeillgarwch wedi'i ffurfio dan gysgod ysbrydoliaethus Arenig Fawr. Yna mae bywydau'r ddau lanc 19-oed yn mynd i gyfeiriadau gwahanol.
Mae Edward yn penderfynu ymadael a chefn gwlad brydferth gogledd Cymru yn y gobaith y daw o hyd i ddyfodol gwell yng nglofeydd y Rhondda yn ne Cymru, tra bo Elfed yn dewis aros yn Nhryweryn i ffermio tir ei dad. Ni fydd y ddau ffrind yn cwrdd eto, ond maent wedi'u rhwymo gan weithred o frawdoliaeth, symbol o'u cyfeillgarwch, a fydd, o ganlyniad, yn cael effaith ar eu teuluoedd
Mae Tongue Tied yn ein caniatau i gael cipolwg ar fywyd teuluol Cymreig yn ystod diwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20ed ganrif, o safbwynt o glofa a'r fferm, ac fe ddilynnwn ymdrechion y teuluoedd Evans a Jones.
Dyma stori rymus sy'n archwilio perthnasau, crefydd, iaith a hunaniaeth - a sut y gallant, yn y pen draw, rwygo teuluoedd ar wahan.