Adnabyddir Idris Charles fel diddanwr hwyliog sydd wrth ei fodd yn gwneud i bobl chwerthin. Cafodd yrfa ddisglair yn perfformio ac ysgrifennu comedi, gan baratoi sgriptiau i enwogion fel Cannon and Ball.
Ond mae llawer mwy i'w fywyd na hynny. Bu'n werthwr hufen ia, yn athro gyrru ceir yn ogystal a darlledwr poblogaidd.
Disgynnodd hefyd i bydew du iselder am gyfnodau hir, a cheisiodd gyflawni hunanladdiad ar ddau achlysur - oherwydd iddo, yn ol ei feddyg, "wisgo'r mwgwd yn rhy hir".
Yn y gyfrol hon mae Idris yn tynnu'r mwgwd ac yn agor ei galon i'r hyn fu'n ei lethu gydol ei oes.
Mae'n delio'n onest a'i grefydd, ei efengylu a'r cyfnodau hynny lle collodd ei ffydd yn llwyr.
Ceir yma ras o fywyd sy'n neidio o un pegwn i'r llall, yn llawn hiwmor a straeon dadlennol - o'i berthynas ag Aloma (pan oedd deuawd Tony ac Aloma ar ei anterth) i'w efengylu tanbaid o strydoedd yr Wyddgrug i'r Philippines.