Disgrifiwyd Peter Moore fel un o'r bobl beryclaf i osod troed yng Ngogledd Cymru erioed, ar ol ymosod ar ddegau o ddynion rhwng yr 1970au a'r 90au.
Brawychwyd cymuned gyfan gan erchyllter yr ymosodiad ar y weddw 90 oed, Mabel Leyshon, ar Ynys Mon. Bu'r ymosodwr yn ddidrugaredd, gan ddiferu gwaed o'i chorff a'i yfed.
Cysylltir Clydach gydag un o'r achosion gwaethaf o lofruddiaeth yn hanes Cymru, wrth I dair cenhedlaeth o'r un teulu gael eu lladd gan y llabwst David Morris.
Achos llofruddiaeth Lynette White oedd un o'r rhai enwocaf o gamweinyddu cyfiawnder ym Mhrydain erioed.
Daeth enw Emyr Ddrwg yn adnabyddus drwy Gymru gyfan yn dilyn y darganfyddiad fod y gweinidog parchus wedi bod yn amharu ar gyrff y meirw.
Darllenwch am rai o achosion troseddol gwaethaf a mwyaf gwyrdroedig a welwyd yng Nghymru erioed -i gyd wedi eu hysgrifennu'n iasol gan newyddiadurwr profiadol.