Watsh Anweledig Wil
Stori fywiog a doniol am fachgen bach sy'n gwybod faint o'r gloch yw hi bob amser gan fod ganddo watsh anweledig. Ar y dechrau does neb yn ei gredu ond cyn bo hir daw pawb i ddibynnu arno. Pan mae rhywbeth ofnadwy'n digwydd yn yr ysgol mae pawb yn sicr y bydd Wil yn nodi'r amser, ond tybed a fydd e? Stori lliwgar i blant 5-7 oed.