Morwr Tir Sych - Hunangofiant J. Geraint Jenkins
Hunangofiant Dr J. Geraint Jenkins, a anwyd i deulu o forwyr yn Llangrannog, sir Aberteifi ac a ddaeth yn guradur Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan ac Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru cyn ymddeol i fro ei febyd. Mae'n ddarlithydd poblogaidd ac yn awdur toreithiog. Mae'n arbenigo ar hanes diwydiannau a chrefftau Cymreig, yn arbennig hanes diwydiant gwlân a bywyd morwrol Cymru.