Er bod sawl aber yng Nghymru, mae un Aber sy'n sefyll uwchlaw'r lleill i gyd. Dyma dref sy'n cynnig llu o wynebau gwrthgyferbyniol - tref Gymreig y llyfrau, sy'n gartref dysgedig i Lyfrgell Genedlaethol Cymru; tref fyrlymus a hanesyddol y Coleg Ger y Lli. Tref glan-môr draddodiadol, sy'n gyrchfan i dripiau ysgol Sul o ganolbarth Cymru a thwristiaid haf o ganolbarth Lloegr. Tref y sglodion a'r candi-fflos; tref y delis dethol a'r caffis bach bohemaidd. Tref y prom a thre Penglais, tre'r pier a Phen-dinas. Mewn chwe ysgrif wrthgyferbyniol mae rhai o awduron difyrraf Cymru'n archwilio'u perthynas hwy ag Aberystwyth a thrwy hynny, yn codi cwr y llen ar y llu profiadau sy'n gysylltiedig â'r dref unigryw hon. Rhoddir unoliaeth i'r cyfan gan luniau trawiadol a lliwgar Keith Morris, y ffotograffydd dawnus a dreuliodd oes yn bwrw'i lygad graff dros dref fach â chanddi syniadau mawr. Cyfraniadau gan: Catrin Beard, Lyn Lewis Dafis, Lyn Ebenezer, Meleri Wyn James, Sioned Puw Rowlands ac Eurig Salisbury.