Dwedai hen ŵr llwyd o'r gornel,
'Gan fy nhad mi glywais chwedel,
A chan ei daid y clywsai yntau,
Ac ar ei ôl mi gofiais innau.'
Er mor hen yw'r hen benillion a gasglwyd ynghyd gan T. H. Parry-Williams ym 1940, mae eu swyn a'u synnwyr mor gyfoes a gogleisiol ag erioed. Weithiau maent yn ein hysgwyd; dro arall, yn tynnu deigryn:
Derfydd aur, a derfydd arian,
Derfydd melfed, derfydd sidan,
Derfydd pob dilledyn helaeth;
Eto er hyn ni dderfydd hiraeth.
Wrth i ni heddiw chwilio am y geiriau addas, am y doniolwch angenrheidiol, ac am y doethineb sy'n cynnig gair o gysur, go brin y byddai'r rhan fwyaf ohonom mor wreiddiol, mor ffraeth ac mor delynegol â'r cyndeidiau a fuodd wrthi'n cyfansoddi a chofio'r penillion syml sydd yn y casgliad cyfoethog hwn.