Mae gan dîm pêl-droed y gyfrol hon dri ar ddeg o sêr, ond nid ar y fainc mo lle'r un ohonynt!
Er nad yw pob un mor adnabyddus â Giggs, mor gawraidd yn y cof â Charles, y mae i bob un ei nodwedd arbennig, rhywbeth sy'n gwneud pob un yn seren. Ceir cyfle rhwng y cloriau hyn i weld tu hwnt i'r ystadegau moel at galon y person – natur y cymeriad a'i gwnaeth yn arwr. Cawn weld hefyd nad yw bod yn seren y bêl gron yn fêl i gyd ac, yn sicr, nad yw'r clod yn para byth. Beth sy'n digwydd wedyn? Wel, mae stori ambell un yn ddigon trist.
Y 'rheolwr' medrus sy'n dwyn y pencampwyr i'n sylw yw prif ohebydd pêl-droed y BBC yng Nghymru, Ian Gwyn Hughes. Gall ef honni ei fod wedi gweld y sêr hyn i gyd yn chwarae – pob un ond John Charles, ond fe gafodd gyfle i gwrdd ag yntau hefyd, a gweld ei fawredd. Daw dealltwriaeth Ian o'r gêm, ei thactegau a'r 'wleidyddiaeth' sydd ynddi, yn amlwg ar unwaith. Ond yn fwy na hynny, yr hyn a geir yma yw barn cefnogwr selog, un o'r ffans sy'n caru pêl-droed o'r meysydd hyfforddi i'r stadiwm fwyaf.