Grav. Mae'r enw'n ddigon i godi gwên a thynnu deigryn yr un pryd. Prin y bu erioed ffigwr cenedlaethol mor annwyl gan ei bobl â Ray Gravell. A phrin y bu'r un genedl yn anwylach gan un o'i chewri nag oedd y Cymry gan y gŵr mawr a mwyn o Fynyddygarreg. Roedd Grav yn ddyn geiriau. A'i eiriau ef ei hun a glywch chi yn y gyfrol hunangofiannol hon, cyfrol oedd ar y gweill cyn ei farwolaeth annhymig yn Hydref 2007. Mae rhan gynta'r llyfr yn ddetholiad o Grav a gyhoeddwyd yn 1986, tra bod yr ail ran yn cynnwys uchafbwyntiau o'i ysgrifennu a'i ddarlledu yn y blynyddoedd wedi hynny - a'r cwbwl wedi ei ddewis a'i olygu'n ofalus gan un a fu'n gyfaill da iddo, sef Alun Wyn Bevan. Un Grav oedd. Ond roedd y cymeriad hwnnw'n cynnwys sawl Grav, Grav y maes rygbi, Grav y cyfryngau, Grav yr eisteddfod - ond, yn bennaf oll, Grav ei filltir sgwâr a'i deulu. Ac yn y gyfrol hon, mae'r cyfan oll.