Dyma eiriadur cyfoes ac angenrheidiol ar gyfer pawb sy'n defnyddio neu'n dysgu'r Gymraeg. 43,000 o gofnodion yn diffinio ystyr geiriau Cymraeg yn Gymraeg, ynghyd â geiriau Saesneg cyfatebol ar ddiwedd cofnod.
- ymadroddion a phriod-ddulliau
- termau ar draws ystod o feysydd pwnc arbenigol
- geiriau ac ymadroddion estron
- brawddegau enghreifftiol
- arweiniad gramadegol ar sut i ddefnyddio'r geiriau, gan gynnwys treigladau
- patrymau rhedeg berfau ac arddodiaid a phatrwm cymharu ansoddeiriau
- labeli defnydd geiriau (anffurfiol, hynafol, etc.)
- adran Saesneg-Cymraeg yn ateb y cwestiwn 'Beth yw'r gair Cymraeg am . . . ?'