Mae Dennis O'Neill, mab Eva a 'Doc' o Bontarddulais, erbyn hyn yn cael ei gydnabod yn un o gantorion mwyaf amlwg y byd opera cyfoes. Ond er gwaetha'i fagwraeth ar aelwyd gerddorol, ac mewn pentref hynod ddiwylliadol, gwybodus a chystadleuol o ran cerddoriaeth, ni fu taith Dennis, o'r cwm diwydiannol i uchelfannau cerdd y byd, yn un hawdd. Bu'n rhaid iddo frwydro i gyflawni ei uchelgais i fod yn ganwr proffesiynol, ac ar ôl cyrraedd y nod hwnnw fe gymerodd flynyddoedd o waith diwyd i hyfforddi a datblygu 'llais swynol, addawol' y llanc ifanc i fod yn un o leisiau mwyaf y byd opera rhyngwladol. Ond os yw'r gŵr bach o gorff hwn 'yn gawr ar y llwyfan', chwedl Ray Gravell, mae e hefyd yn berson cyflawn, mawr ei barch, oddi ar y llwyfan. 'Hael a charedig' a 'diymhongar' yw rhai o'r geiriau a ddefnyddir yn aml i'w ddisgrifio, ac mae 'na elfen gref o hiwmor yn perthyn iddo hefyd. Dyma gyfle i dreiddio i gymeriad Dennis, y canwr proffesiynol a'r dyn tu ôl i'r mwgwd theatrig - beth sy'n ei wneud yr hyn ydyw ar lwyfan ac yn ei fywyd bob dydd - a hynny trwy lygaid Frank Lincoln, cyfaill, edmygydd, ac un sy'n ei adnabod yn dda ers blynyddoedd.