Draw dros y don mae bro dirion...
Y mae amser i bob peth...
Cawsom wlad i'w chadw...
A geir yn rhodd...
Allwedd arian a...
Mor aml y daw gair neu hanner llinell i'r meddwl, ac yna'r drws yn cau'n dynn - blank llwyr! Wel, dyma'r ateb. Mae yma drysorfa helaeth o ddyfyniadau, rhai enwog a rhai llai hysbys ac, yn hollol allweddol, mae yma fynegai trylwyr â llawer o groesgyfeirio sy'n ei gwneud yn hawdd dod o hyd i'r geiriau coll.
Ond nid dyna unig werth y gyfrol hon. O bori ynddi'n achlysurol mae modd cael oriau o bleser yn ailddarganfod ac ailflasu rhai o berlau'r Gymraeg a darganfod o'r newydd rai dywediadau doeth a ffraeth. Un elfen annisgwyl yw'r dyfyniadau a gyfieithwyd gan yr awdur o ieithoedd eraill - rhannau o areithiau enwogion ein byd, dywediadau smala a digri, a doethinebau diarhebol - mae'r gyfrol yn frith ohonynt!