Mae hi bron yn Nadolig - ond nid yw'n teimlo felly i Nant, sy'n dychwelyd i'w hen gartref wedi marwolaeth ei thad, Doctor Cynfal. Fel tŷ doctor a syrjyri, lle i wella fu'r Glyn i bobl yr ardal, ond theimlodd Nant erioed yn rhan o'r 'ffatri fendio' deuluol. I'r gwrthwyneb yn wir; atgofion chwerw sydd ganddi o'r hen le, atgofion a drodd yn greithiau gydag amser. Ciliodd o'r Glyn yn bedair ar bymtheg oed, wedi methu yn ei huchelgais i fynd yn feddyg - ac yn feichiog.
Wrth i Nant geisio dygymod â'i hetifeddiaeth a rhoi cynnig ar glirio ugain mlynedd o lanast, mae poenau'r gorffennol yn bygwth ei llyncu, heb sôn am boenau'r presennol. Ond yng nghanol ei gyfrinachau, tybed a oes gan yr hen dŷ foddion i wella Nant wedi'r cyfan? Moddion annisgwyl a phur wahanol i'r tabledi a'r ffisig a fu yno yn nyddiau'i thad a Nyrs Beti, efallai, ond moddion, er hynny.
Dyma nofel gyfoes am hanfodion byw a marw, nofel am deulu a chymuned, nofel sy'n llawn o ddirgelwch, emosiwn a chyffro. Hon yw ail gyfrol Meinir Pierce Jones i oedolion; gosodwyd y gyntaf, Y Gongol Felys, ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn yn 2006