'Lle fel hwn, mi wn, yw Afallon.' Prin nad oes un dref yng Nghymru wedi ysbrydoli cynifer o feirdd, llenorion a chantorion â Blaenau Ffestiniog; o Eigra Lewis Roberts i Geraint V. Jones, o'r Tebot Piws i Anweledig. Ond does neb sy'n fwy o 'fab Stiniog' na Gwyn Thomas. Yn y llyfr bendigedig hwn, mae'r Bardd Cenedlaethol yn dathlu'r lle a ddisgrifiwyd ganddo fel 'breichled o dref ar asgwrn y graig' ac yn talu teyrnged i'r bobl hynny a naddodd o'r graig honno y Blaenau a adwaenwn ni heddiw. Y cyfuniad o fyd natur a gwaith dyn ar y tirlun sydd wedi denu diddordeb y ffotograffydd adnabyddus Jeremy Moore i'r ardal hon, gan ei fod yn awyddus i gofnodi effaith y diwydiant llechi ar un o ardaloedd harddaf Eryri. Yr hyn a gawn yn y gyfrol drawiadol hon yw priodas berffaith rhwng ei luniau trawiadol ef a geiriau hudolus Gwyn Thomas.