Rhyfedd o Fyd
Cyfrol dreiddgar o ysgrifau cyfoes sy'n gofyn cwestiynau pwysig am ein byd. Hanes teithiau i fannau arbennig ac ymateb athronyddol i newyddion a helyntion y dydd. Y mae'r awdur yn bwrw'i fol am argyfyngau ein hoes - yn cynnwys trafodaeth ar sefyllfa'r Gymraeg fel y mae hi, go-iawn. Ffrwyth cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith, Eisteddfod Genedlaethol 2005.