Pont Readalone: A Pet Called Persil
Stori ddifyr i blant am Madi sy'n awyddus i gadw anifail anwes, ond y mae asthma ei brawd, Jonathan, yn ei rhwystro rhag cael anifail yn y cartref. Daw bochdew i'r ysgol, ond daw cyffro i Madi a'i ffrindiau wedi iddo ddianc o'r cwb agored. Stori afaelgar sy'n dangos cyfrifoldeb cadw anifeiliaid anwes.