Casgliad o gant o gerddi'n ymwneud ag ardal arbennig sydd yn y gyfrol ddifyr hon, un o gyfres boblogaidd sy'n ein tywys ar hyd a lled Cymru trwy gyfrwng barddoniaeth. Yn wahanol i gyfresi o gerddi bro y gorffennol, nid ar y beirdd ond ar eu testun y mae'r pwyslais yn y gyfres hon: mae pob cerdd yn sôn am yr ardal, ei hanes neu ei phobol. Pwerdy Cymru gynt gaiff ein sylw y tro hwn. Gwelodd y nadroedd o bentrefi tai teras sy'n glynu wrth lethrau serth cymoedd de Cymru lawer iawn o newid yn ystod eu hanes, o ran tirwedd, poblogaeth ac iaith. Erbyn hyn parc treftadaeth yw'r unig lofa a welwch chi yng Nghwm Rhondda ac mae coed unwaith eto'n harddu Cwm Cynon. Pontio tri chyfnod wna cerddi'r gyfrol hon: y blynyddoedd cyn-ddiwydiannol, rhaib diwydiant a'r cyfnod presennol - 'Y Chwyldro Gwyrdd', chwedl Rhydwen. Ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain mae'r cymoedd hyn yn glasu unwaith eto: mae tyfiant naturiol yn gorchuddio'r hagrwch a'r Gymraeg yn dychwelyd yn betrus, brydferth.