Dyw hi ddim yn llawer o hwyl bod yn rheolwr ar dîm pêl-droed gwaethaf gorllewin Cymru, ac mae Keith Pugh yn teimlo'r straen. Mae wynebu tymor arall o weld Dynamo Cwmann yn colli'n rhacs ar Gae Coedmor yn dechrau dweud arno, ond beth all Keith ei wneud? Daw'r ateb, yn annisgwyl, yn y Sunday Sport o bobman, ac mae'n ateb braidd yn rhyfedd. Ond rhaid i ffawd y Dynamo newid, ac mae dewiniaeth Affrica ar fin tanio yng Ngheredigion!
Yn y nofel rempus ac anfarwol o ddigri hon cewch gwrdd â Keith, Roy Ram, Melvin y Milgi, Iwan Chan, Selwyn Twrcis Tew a llu o gymeriadau amheus eraill o Lambed a'r cyffiniau heb sôn am Dr Livingstone Yeke o Nigeria!
Hon yw nofel gyntaf Gary Slaymaker, y digrifwr a'r adolygydd ffilm o Lanbedr Pont Steffan.