Deg o storiau byrion sydd yn y casgliad gwefreiddiol hwn gan Eigra Lewis Roberts, a phob un yn benthyca o hwiangerdd neu rigwm yn y teitl. Mae pob stori yn ei ffordd ei hun yn peri i ni feddwl faint y mae bywyd rhywun yn troi ar un digwyddiad neu ffactor - ac oni bai am hynny, pa mor wahanol fyddai pethau?
Dyma gyfrol aeddfed a chaboledig gan awdures sy'n feistr corn ar y grefft o lunio stori fer.