'Fet oeddwn i a fet oedd fy nhad. Dyna, mewn brawddeg, hanes fy mywyd.' Cofiwch, mae llawer mwy na hynny i fywyd Richard Thomas MRCVS, Penrallt-ddu, Aberteifi - neu Dic y Fet, fel y mae pawb yn ei nabod. Efallai ei fod yn gwybod beth sy'n bod ar eich buwch, ond mae hefyd yn cofio rhif pob car, mae'n gantor defnyddiol iawn mewn cymanfa a gêm rygbi a gall adrodd stori ddigri ar gyfer pob achlysur. Fe fu Dic yn ffigur adnabyddus yn ardal Dyffryn Teifi a gogledd sir Benfro am flynyddoedd, fel milfeddyg yn dilyn ôl traed ei dad - Tomos y fet - yn sicr, ond hefyd fel siaradwr gwadd mewn cinio a noson gymdeithasol, ac fel un o sêr Opera Teifi. Daeth yn enwocach fyth pan ddangoswyd ei bractis milfeddygaeth ar raglen deledu Galw'r Fet ar S4C. Ydy, mae Dic ei hun yn dderyn. Ac oes, mae yma stôr o straeon ardderchog am rai o gymeriadau mawr Ceredigion. Ond mae yma hefyd ddarlun craff o gymdeithas arbennig a'r newidiadau a ddaeth i'w rhan yn yr ugeinfed ganrif. Dyma bortread twymgalon o ddyn a'i ardal. Dyma gyfle i chwerthin ac i feddwl bob yn ail.