Dyma gyfrol fendigedig sy'n gyfuniad o ysgrifennu praff a ffotograffau trawiadol, a'r cyfan gyda'r unig fwriad o ddathlu mynyddoedd Cymru. Er nad yw pob mynydd yn uchel iawn - yn wir, gellid dadlau mai bryniau a chanddynt ormod o uchelgais yw ambell un - maent i gyd yn meddu ar le arbennig iawn yng nghalon yr awduron. Mae'r deg ysgrif wahanol iawn gan awduron adnabyddus yn ein tywys i bob cwr o'r wlad. Awn i Fynydd Tynybraich gydag Angharad Price, i Fynydd y Gwrhyd gydag Alun Wyn Bevan, ac i Gader Idris yng nghwmni Bethan Gwanas. Rhanna Lois Arnold ei phrofiadau am Fynydd Blorens, a datgelir cyfrinach Cefn Du gan Llion Iwan. I'r gogledd-ddwyrain yr awn gydag Elin Llwyd Morgan a Iolo Williams - i Ddinas Brân a'r Berwyn, cyn hedfan i ben arall y wlad, i'r Garn Fawr, yng nghwmni Mererid Hopwood. Ray o'r Mynydd, y dihafal Grav, sy'n datgelu dirgelion Mynydd y Garreg, ac mae Dylan Iorwerth yn ymlwybro ar hyd Crib Nantlle. Daw'r undod oddi wrth ddelweddau gwefreiddiol Ray Wood, y ffotograffydd a'r mynyddwr o Ddeiniolen, sy'n arbenigwr cydnabyddedig ar dynnu lluniau o fynyddoedd ledled y byd. Mae'r lluniau moethus a'r ysgrifennu cyhyrog yn rhoi cyfle i ni rannu gogoniant ac ysblander lleoedd anial Cymru heb orfod codi o'r gadair, ond gobeithio y byddant yn ysbrydoliaeth i ambell un godi pac a darganfod drosto'i hunan yr hudoliaeth sydd ymhlyg ym mynyddoedd Cymru.