Am hwyl!
Beth allai fod yn well na neidio'n uchel ar drampolîn, cicio pêl o gwmpas yr ardd, syrffio'r we neu wisgo sgidie glaw newydd i greu sblash ynghanol y dŵr? Pa ots am ddigio Mr. Ceredig, drws nesa, am ddillad yn socian, nac am wylltio Mam yn gacwn? Dyna fyd y plentyn. A dyna hefyd fyd y Prifardd Tudur Dylan Jones - byd yn llawn direidi, cyffro ac antur sy'n hollol anweledig i bawb trwy'r byd...ond fi. Casgliad cyffrous o gerddi newydd sydd â'u rhythmau a'u hodlau'n tasgu oddi ar y tudalennau.