Yr ail gyfrol mewn cyfres newydd a gwreiddiol sy'n cyflwyno hanes Cymru mewn modd doniol a difyr i blant.
Mae pawb yn gwybod bod hanes yn gallu bod yn ofnadwy o ddiflas ac atgas - yn enwedig pan mae'r athrawon yn mynd ymlaen...ac ymlaen...ac ymlaen! Ond oeddech chi'n gwybod fod:
- Pobl yn cael eu berwi'n fyw mewn olew yng nghyfnod y Tuduriaid trafferthus a'r Stiwartiaid syrffedus?
- Ambell ŵr yn mynd â'i wraig i'r ffair i'w gwerthu fel anifail?
- Un esgob mor hoff o grogi pobl nes iddo grogi un dyn oedd wedi marw'n barod?
Dysgwch fwy am y lloffruddion lloerig, yr ysgolion ysglyfaethus a'r gemau gwarthus oedd i'w cael yn y cyfnod modern cynnar.
Darllenwch am y cweryla cythryblus, y ffynhonnau ffantastig a'r môr-ladron mileinig....
Mae'r cyfan yn y llyfr Hanes Atgas hwn.
Byddwch yn gwybod mwy na'ch athrawon wedyn am hanes Cymru adeg y Tuduriaid trafferthus a'r Stiwartiaid Syrffedus!