Caradog Prichard (1904-80) oedd awdur Un Nos Ola Leuad, a ystyrir gan lawer yn nofel orau'r iaith Gymraeg. Roedd hefyd yn fardd toreithiog a ddaeth i sylw'r genedl gyntaf pan gyflawnodd y gamp unigryw o ennill coron yr Eisteddfod Genedlaethol deirgwaith yn olynol. Fel brodor o Fethesda, roedd yn un o lenorion bro'r chwareli, ond treuliodd dros hanner ei oes yn Llundain fel newyddiadurwr a thorrodd gwys lenyddol dra gwahanol i'w gyd-awduron. Roedd yn ŵr preifat, enigmatig, ond gŵr, serch hynny, a ddewisodd wneud profiadau trawmatig ei lencyndod yn brif destun ei waith creadigol.
Yn yr astudiaeth gofiannol arloesol hon - yr ymdriniaeth fwyaf trylwyr â'r gwrthrych hyd yma - mae Menna Baines yn edrych ar y dyn a'i waith, gan dynnu ar doreth o ddeunydd o bob math a chan ddatgelu cyfoeth o wybodaeth newydd. Yn ogystal ag olrhain bywyd Caradog, ymdrinnir yn fanwl â phob un o'i brif themâu, gan roi sylw arbennig i Un Nos Ola Leuad a'r hyn sy'n ei gwneud yn nofel mor unigryw a gwreiddiol.