Casgliad o gerddi'n ymwneud â phobman ond Cymru sydd yn y gyfrol ddifyr hon, un o gyfres sydd wedi ein tywys ar hyd a lled Cymru'n unig hyd yn hyn, trwy gyfrwng barddoniaeth. Yn wahanol i gyfresi o gerddi bro y gorffennol, nid ar y beirdd y mae'r pwyslais yn y gyfres hon, ond ar eu testun: mae pob cerdd yn sôn am y lleoliad, ei hanes neu ei bobol. Ymadael â Chymru'n llwyr a wnawn yn y casgliad hwn, felly, a mynd gyda'r beirdd i bedwar ban byd - ardal lawer ehangach na'r casgliadau blaenorol! Gan gychwyn yn yr Hen Ogledd gyda'r 'Gwŷr a aeth Gatraeth' a mynd i bob cwr o America, Ewrop ac Asia, heb anghofio Lloegr, Iwerddon a'r Alban, gallwn weld sut y bu i feirdd Cymru ymateb i fannau hardd a hagr y byd, mewn llonyddwch ac mewn gwrthdaro. Profiadau Cymry oddi cartref sydd yma'n bennaf, ond cawn gwrdd hefyd ag ambell 'ddinesydd y byd' - fel y ferch ar y Cei yn Rio ac Elvis.