Y gyfrol gyntaf mewn cyfres wreiddiol newydd sbon i gyflwyno hanes Cymru yn ddoniol a difyr i blant.
Wedi cael llond bola ar hanes? Ffeithiau a dyddiadau diddiwedd! Athrawon yn rhygnu ymlaen ac ymlaen! Wel, does dim rhaid i hanes fod yn ddiflas. Oeddech chi'n sylweddoli fod pen-ôl iâr yn gallu gwella pen tost? Gwraig yn yr Oesoedd Canol yn gallu cael ysgariad os oedd anadl ei gŵr yn drewi? Rysáit arbennig i gael gwared ar chwain? Darllenwch fwy am arferion afiach, ffeithiau ffiaidd ac ofergoelion od yr Oesoedd Canol Cythryblus. Dysgwch am y farwolaeth fawr frawychus; y menwyod milain; cosbau creulon y cyfnod ac am gestyll y concerwyr cyfrwys. HANES ATGAS ar ei orau! Chewch chi mo'ch siomi. Ar Restr Fer Tir na n-Og 2006 ar gyfer y categori uwchradd Cymraeg.