Y Strade - cartre'r Sgarlets ac aelwyd y sosban ers dros gan mlynedd. Oes, mae 'na hanes a hanesion difyr yn ymwneud â Chlwb Rygbi Llanelli. Ar yr aelwyd hon y magwyd nifer o gewri'r gêm yng Nghymru - Albert Jenkins a Lewis Jones, Carwyn a Phil Bennett, a'r Quinnells - i enwi ond rhai o'r hoelion wyth sy'n cael sylw yma. Bu'r Strade'n Fecca i filoedd o gefnogwyr brwd a ffraeth mewn sawl cenhedlaeth ac mae yma ambell stori dda amdanyn nhw! Bu'r clwb, hefyd, yn rhan o rai o'r gornestau mwyaf cyffrous a welwyd erioed ar gae rygbi. Mae'n werth ail-fyw'r fuddugoliaeth anfarwol honno yn erbyn y Crysau Duon yn 1972. Ond beth am Northampton a Biarritz yn y blynyddoedd diweddar? Pleser fel procio'r ddannoedd! Pytiau byrion sydd yma, pob hanesyn wedi ei roi mewn cyd-destun cyfoes - ac annisgwyl, weithiau - a phob un yn stori gyfan ynddi ei hun. Trwy gyfrwng y cameos hyn fe ddown i nabod y clwb a'r gymuned sy'n ei gynnal.