Pan ddarganfyddir merch wedi'i churo'n anymwybodol mewn stryd gefn yn un o ddinasoedd mawr Lloegr, fe ŵyr y Ditectif Inspector yn iawn pwy oedd yn gyfrifol ond heb dystiolaeth bendant, does ganddo fawr o obaith dwyn yr euog i gyfrif. Prin y mae'n sylweddoli ar y pryd y bydd ei ymholiadau yn agor drws iddo ar wlad ac iaith a diwylliant sydd wedi bod yn gwbl ddieithr iddo hyd yma. Ond mae ganddo'i broblemau personol i'w datrys yn ogystal, problemau sydd, dros y blynyddoedd, wedi'i wneud yn ddyn chwerw a drwgdybus, yn ei waith ac ar ei aelwyd gartre. Yn y cyfamser, yng nghanolbarth Cymru caiff hen graith ei hagor, gan ddatgelu cyfrinach sydd wedi pwyso ar gydwybod teulu cyfan am flynyddoedd lawer..