Cyfle i ddod i nabod y gantores a'r gyflwynwraig arbennig a dewr wrth iddi adrodd ei stori unigryw am y tro cyntaf mewn cyfrol. Magwraeth gyffredin, digon gwledig, ar fferm yng Nghwm Gwendraeth, plentyndod cariadus oedd yn llawn o ganu. Cael gitâr am y tro cyntaf, yna mentro mwy a mwy i berfformio, cyn cyrraedd rownd delfrydol Cân i Gymru, a'r brêc mawr cyntaf yn 1995. Daeth sawl tro ar fyd, ond trwy law a hindda bu'n parhau i ganu a chasglu dilynwyr selog. Ond daeth wyneb yn wyneb â gelyn oedd yn barod am frwydr fawr - ei brwydr yn erbyn cancr y fron, a newid byd cyfarwydd Gwenda yn llwyr. Dyma stori afaelgar, deimladwy, hynod o galonogol, am ymdrech merch gyffredin i oroesi, ond mae hefyd yn stori ysbrydoledig y ferch drws nesaf a ddaeth yn seren canu pop Cymru, a hynny yn erbyn llawer o rwystrau.