Cyfrol bwrdd coffi ddwyieithog yn olrhain datblygiad darlledu yng Nghymru gan y BBC. Yn cynnwys lluniau trawiadol o'r archifau mae Cymru ar yr Awyr yn dilyn twf BBC Cymru gan ddysgu amdano'n symud i Fangor yn ystod y rhyfel, sut y dilynodd fuddugoliaethau cynnar rygbi yng Nghymru a sut y daeth â'r delweddau torcalonnus cyntaf o Aberfan i sylw'r byd.
Tyfodd darlledu yng Nghymru, ar y radio, teledu a dros y Rhyngrwyd, ochr yn ochr â'r genedl y bu'n ei gwasanaethu dros y 80 mlynedd diwethaf, gan fod yn dyst i'w dathliadau a'i thrychinebau.