Daeth yr Ail Ryfel Byd â newid mawr i fywyd teuluoedd yng Nghymru. Cafodd dinasoedd a threfi eu bomio, a gwelodd rhai plant ddigwyddiadau trist iawn. Ond i lawer, roedd bod yn blentyn adeg rhyfel yn antur hefyd. Daeth faciwîs i Gymru; daeth ffasiynau rhyfedd; daeth cyfle i dyfu llysiau a chadw mochyn, neu adeiladu Lloches Anderson yn yr ardd gefn. Doedd y bwyd ddim wastad yn hwyl - roedd gan bawb Lyfr Dogni, ac ychydig iawn o bethau melys oedd ar gael. Dim siocled a dim bananas!
Dyma lyfr i'r teulu cyfan bori ynddo, gan fod darlun mor fyw o hanes i'w gael yn y lluniau, yr atgofion a'r manylion unigryw.
Mae fersiwn Saesneg o'r gyfrol ar gael hefyd, sef A Wartime Scrapbook.