Dwy chwaer oedd barddoniaeth a rhyddiaith i Dic Jones, fel y gwelir yn y casgliad hwn o gerddi ac ysgrifau. Fe'u cyhoeddir ochr yn ochr â'i gilydd - rhai ohonynt yn ddarnau cofiadwy a gyhoeddwyd yn ei golofn reolaidd yn y cylchgrawn wythnosol Golwg, eraill yn ffrwyth cystadlu a diddanu cymdethasol, ynghyd â myfyrion mwy personol a droes, fel ag erioed yn achos gwaith y cymeriad poblogaidd hwn, yn eiddo cyhoeddus.
Os ffermwr oedd Dic Jones wrth ei alwedigaeth, bardd ydoedd o ran ei anian, ac un o'n beirdd gorau hefyd. Deuai cynganeddu mor rhwydd â pharablu iddo, ond byth ar draul safon, a daeth i amlygrwydd drwy gipio Cadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd bum gwaith cyn iddo ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Aberafan ym 1966 gyda'r gyntaf o'r ddwy awdl fawr, sef 'Cynhaeaf'.
Penllanw ei yrfa oedd iddo gael ei urddo yn Archdderwydd Cymru yn 2008, a cholled cenedl gyfan oedd na chafodd Dic yr Hendre fyw i gwblhau ei dymor yn y swydd aruchel honno.