Manawydan Jones: Y Twrch Trwyth (e-lyfr)
Dilyniant i'r nofel Manawydan Jones: Y Pair Dadeni. Mae Manawydan yn byw'n fodlon ei fyd ar Ynys Fosgad ymysg y Cyfeillion a'i ffrindiau pennaf, Alys a Mogs. Ond daw si ar led bod Gweufalyn, arweinydd y Marchogion, yn ceisio creu fersiwn cyfoes o'r Twrch Trwyth er mwyn achosi dinistr ac anrhefn ar hyd a lled y wlad. A fydd Manawydan a'r Cyfeillion yn gallu ei atal?