Dyma hanes blwyddyn ym mywyd Peter Berry, dyn cyffredin sy'n byw mewn pentref tawel yn Suffolk. Yn 50 oed, ac yntau yn ŵr priod dedwydd yn rhedeg busnes llwyddiannus, mae bywyd Peter yn newid pan mae'n cael diagnosis angeuol o ddementia cynnar.
Pan mae'n cyfarfod â Deb, sydd newydd ymddeol, mae'r ddau'n dechrau mynd ar deithiau beic yn rheolaidd, ac wrth i'r cyfeillgarwch dyfu, gall Deb edrych ar ei bywyd ei hun o safbwynt dementia Peter. Yn 'Olwyn Sgwâr', mae peter yn rhannu'r profiad o fyw gyda chyflwr angeuol, a Deb yn dysgu sut i fwynhau bob dydd i'r eithaf.
Mae Peter bellach wedi codi miloedd o bunnoedd i elusennau dementia, gan siclo cannoedd o filltiroedd yn ei ymgais i ddangos bod bywyd bob amser yn werth ei fyw.