Deffro'r Ddraig - Rygbi Cymru 1995-2024
Dyma lyfr am rygbi Cymru yn yr oes broffesiynol sy'n edrych ar y gemau mawr, y prif gymeriadau a rhai o'r prif straeon sydd wedi lliwio'r gamp ers i'r gêm droi'n broffesiynol bron dri deg mlynedd yn ôl. Daw'r stori i ben drwy edrych ar y garfan ifanc a thaith yr haf i Awstralia yn 2024.