Darganfod ac Ysbrydoli
Darlithoedd a Sgyrsiau Gwyddoniaeth a Thechnoleg - Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023
Mae'r cyhoeddiad hwn yn deillio o gyfres o ddarlithoedd a sgyrsiau yn y Pentre' Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd, 2023. Nid yw'n cynnwys yr holl ddarlithoedd ond yn hytrach ddetholiad o rai ohonynt. Amcan ychwanegol i'r gyfrol yw rhoi cyfle i wyddonwyr a pheirianwyr ifanc ar gychwyn gyrfa i rannu eu gwaith a'u darganfyddiadau gyda chynulleidfa ehangach.