Hunan a Chenedl yw'r nawfed gyfrol yn y gyfres Astudiaethau Athronyddol, cyfres sy'n apelio at unrhyw un sydd â diddordeb mewn trafod syniadau. Cyflwynir y gyfrol arbennig hon gan aelodau Adran Athronyddol Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru i E. Gwynn Matthews, fel arwydd o'u gwerthfawrogiad o'i gyfraniad allweddol i'r Adran ac i fywyd deallusol y Gymraeg yn arbennig. Yn academydd, athro ac awdur, mae Gwynn wedi cyhoeddi'n sylweddol ar amrywiol bynciau, o hanes lleol i athroniaeth, ac mae'r casgliad hwn yn ymgorffori ysbryd ei ddiddordebau eang.
Gan gychwyn gyda detholiad o lyfr adnabyddus Gwynn ei hun ar yr athronydd G.W.F. Hegel, dyma gyfres o erthyglau difyr a gogleisiol gan rai o'n deallusion cyfoes mwyaf blaenllaw a beiddgar, gyda thrafodaethau ar amrywiaeth o bynciau. Ceir ynddi fyfyrdodau ar grefydd, gwleidyddiaeth, llên a theatr, a phynciau llosg diweddar megis y pandemig, awdurdodaeth, ac aml-ddiwylliannedd.
Mewn oes lle rydym yn wynebu heriau hen a newydd, a phan mae drysni a chymhlethdod mewn peryg o'n llethu, mae mwy o angen nag erioed i ni drin a thrafod mewn modd rhesymegol, beirniadol, a deall hanes y syniadau sy'n parhau i gyflyru ein cymdeithas. Cewch yma ymdriniaeth ddeheuig o feddylwyr Cymreig a rhyngwladol - o Charlotte Williams i Kimberle Crenshaw, o Freud i J.R. Jones, o Emyr Humphreys i Hegel - gan awduron sy'n taflu goleuni newydd ar natur ddynol, Cymru a'r byd.