"Wrth edrych yn ol, dwi'n sylweddoli cymaint mae bywyd wedi newid. Mi fues i'n llygad-dyst i gyfnod pan oedd bywyd traddodiadol cefn glwad yn newid am byth."
(Arthur Gwynn Jones)
Mae Arthur Gwynn Jones yn grefftwr dawnus a dreuliodd hanner cyntaf ei oes ym mhentref Cilcain, Sir y Fflint, cyn symud i Lanbedrog, lle bu'n byw am dros chwarter canrif. Drwy gyfres o atgofion difyr, o gyfnod ei dad hyd heddiw, cawn gipolwg ar ganrif a mwy o hanesion - am deulu, am gymuned wledig, Gymreig, ac am ffordd o fyw sydd bron wedi mynd yn angof.
Fe gydiodd mewn darn o goedyn - ei drin
a'i droi'n ffon arobryn.
Naddu gwerth bro a pherthyn
'n eiriau gwych wnaeth Arthur Gwynn! (Huw Alun Roberts)