The Significance of Swans
Nofel gyffrous ôl-apocalyptaidd. Mae Aeronwy, sy'n ganol oed, yn canfod ei hun ar ei phen ei hun yn y byd wedi i bawb arall 'ddiflannu' yn eu cwsg. Wedi iddi fynd ar daith hir ar draws Cymru i fferm ei theulu, caiff ei charcharu gan oroeswr arall, milain. Rhaid iddi ei wrthsefyll - hyd yn oed os yw hynny'n golygu bod yn rhaid iddi ei lofruddio.