Adolygiadau
Rhyngom offers the reader a confident array of precise, concise and compact work.
- Jon Gower, nation.cymru
Straeon bachog a dirdynnol am gymeriadau o'n i'n teimlo mod i'n nabod ar ôl darllen.
- Peredur Glyn Webb-Davies
Fel arfer gyda llyfr da dwi'n ei chael yn anodd i roi y llyfr i lawr, ond 'roedd rhaid rhoi y llyfr yma i lawr rhwng pob stori. Roeddwn wedi dod i ddeall a nabod y cymeriadau mor dda, 'roedd rhaid cael amser i gael fy ngwynt ataf cyn symud ymlaen.
- Gwynfor Owen, Twitter
Wedi gwirioni'n llwyr â Rhyngom - y cymeriadu aeddfed, gonestrwydd yr ymsonau, yr ieithwedd grefftus, agos-atoch-chi. Diolch Sioned Erin Hughes.
- Elin James Jones, Twitter
Cyfrol o straeon crefftus am ddioddef a'r llais ymhob stori'n pefrio. Am dalent!
- Mr I Thomas, Twitter
Chwip o gyfrol. Wedi gwibio drwyddi gan ryfeddu at aeddfedrwydd y mynegiant a'r profiadau amrywiol.
- Lynne Williams, Twitter
Llyfr [sy'n] dod â llais newydd, hollol ffres a chyffrous i ffuglen Gymraeg gyfoes.
- Andrew Green
Wow. Dach chi wedi darllen hwn eto? Gwych.
- Daloni Owen, Instagram
Mae wedi creu oriel o gymeriadau o wahanol gefndiroedd ac wedi llwyddo i ddod â hwy'n fyw i ni, gan ddefnyddio amrywiaeth o arddulliau a chyweiriau ysgrifennu.' | 'Casgliad cyfoethog o storïau gan awdur ifanc, ond aeddfed iawn ei hysgrifennu. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ddarllen a chlywed rhagor o'i gwaith.
- Meinir Evans, Golwg
Cyfrol hollol anhygoel! Amhosib dal y dagrau'n ôl... llongyfarchiadau! Edrych ymlaen at ddarllen mwy o'i gwaith.
- Jo Heyde, Twitter
Anodd credu mai dim ond 24 oed yw Sioned Erin – mae ystod aeddfedrwydd a chyweiriau y straeon yn rhyfeddol. Mwynhad mawr.
- Cathryn Gwynn
Dw i bellach ar fy ail ddarlleniad ac mae hynny'n dweud y cwbl lot…
- Elin Owen, Golwg