"Wnest ti erioed feddwl o ble gest ti dy enw? Dy dad ddewisodd e. Dy gyndaid oedd Manawydan fab Llŷr, brawd Bendigeidfran a Branwen... un o'r rhyfelwyr mwyaf ffyrnig, dewr a ffyddlon erioed. A dyna wyt ti hefyd. Ac rydyn ni, a'r byd, dy angen di nawr..."
Mae brwydr yn cael ei hymladd heddiw a ddechreuodd ganrifoedd yn ôl - brwydr sydd wedi hawlio mwy o fywydau, a thywallt mwy o waed, na'r un arall.
Brwydr rhwng grymoedd da a drwg. Rhwng y goleuni a'r tywyllwch. Rhwng y Cyfeillion a'r Marchogion.
Pan mae dieithryn peryglus yn dod i bentref bach ar gyrion Aberystwyth i chwilio am Manawydan Jones, does gan y bachgen 15 oed ddim syniad am yr hyn sydd o'i flaen. Yn y gobaith o ddianc rhag ei fywyd di-nod a dysgu mwy am ei dad sydd wedi marw, mae Manawydan yn cael ei dynnu ar ei ben i fyd dirgel - byd trais, brad a gwrthdaro etifeddion y Mabinogi. Ond wrth i'r Marchogion agosau at gael eu dwylo ar nerth hynafol y Pair Dadeni, a'r gallu i godi byddin o farw'n fyw, mae Manawydan yn dod i ddeall mai dim ond y Cyfeillion sy'n sefyll yn eu ffordd.