Y Diwedd
Dyma ddilyniant i Y Düwch a Y Dial – yr olaf yn y drioleg o nofelau ditectif cignoeth Jon Gower. Mae perthynas Tom Tom a Freeman wedi blodeuo ac maen nhw'n dechrau trefnu eu dyfodol. Pan aiff nai Tom Tom ar goll mae'n teithio i'r Alban i chwilio am y myfyriwr, gan fynd i fyd tywyll a threisgar iawn.