Adolygiadau
'Nofel ydi hon am adra – gadael adra, dod yn ôl adra, a cheisio penderfynu lle mae adra [...] Nofel dreiddgar ydi hon gan un sy'n cefnogi achosion megis annibyniaeth, dyfodol cymunedau Cymraeg a rhyddfrydiaeth gymdeithasol ond sy'n barod i drafod yn ddeallus y cyd-destun syniadol hefyd. Mae angen mwy o hynny yng Nghymru.'
- Simon Brooks, Barn
'Wedi mwynhau'r nofel hon sy'n darlunio'r gwrthdaro mewnol a'r heriau sy'n wynebu llawer ynghylch eu hunaniaeth, eu cyfrifoldebau ac egwyddorion.'
- Ion Thomas, Twitter
Dyma nofel bwysig sy'n saff o dynhau a llacio clymau hunaniaeth pob un ohonom.
- Casi Wyn
Un o agweddau mwyaf trawiadol y nofel a ble mae Ffion Enlli yn serennu yw'r ffordd y mae hi'n llwyddo i roi cymaint o hygrededd i'w chymeriadau drwy ysgrifennu golygfeydd a deialog mor rhwydd a naturiol. Yn dra anarferol ar gyfer nofel Gymraeg, mae'r ddeialog rhwng Lydia a'i chydweithwyr a ffrindiau dros y ffin mewn Saesneg, ac o ganlyniad, mae rhan sylweddol o'r ddeialog mewn Saesneg. Fodd bynnag nid yw hyn yn tarfu ar lif y naratif o gwbl. I'r gwrthwyneb, mae'r ddeialog Saesneg yn llifo yn hawdd i'r naratif Gymraeg, ac fel darllenydd teimlais ei fod yn ychwanegu at y profiad wrth i mi gael fy nhrochi yn llwyr ym myd dwyieithog, rhyngddiwylliannol y prif gymeriad.
- Lois Llywelyn Williams, Y Cymro
Cerdded yn sgidiau Lydia Ifan wrth iddi ddal drych ar lot o bethau yn goblyn o daith – wir werth darllen.
- Aled Hughes, Radio Cymru
Nofel sy'n llwyddo i gyfleu cymhlethdod y teimladau sy gan lawer ohonon ni ynglŷn â hunaniaeth a bod yn berthyn i ddiwylliant/diwylliannau, gwlad/gwledydd. Dw i'n edrych ymlaen at y nofel nesa!
- Neil Wyn Jones, Twitter
Dyma lyfr amserol iawn ynglŷn â hunaniaeth a'r Gymru gyfoes. Dwi wir yn argymell ei ddarllen!
- Francesca Sciarrillo, Cara
...darllenadwy iawn, rwy'n eich argymell i brynu'r nofel!
- Malachay James, Golwg360