Niwl Ddoe (e-lyfr)
Corff gwraig yn y Ddyfrdwy a thrasiedi yn Llŷn, nofel goll, dyddiadur cudd, dryswch yn achau'r teulu. Mae rhyw ddirgelwch neu gyfrinach yng ngorffennol pob un ohonom ond unlle'n fwy nag ym mywyd yr awdures fyd-enwog Veronique ac yn hanes teulu Sisial y Traeth yn Abersoch. Mae sawl dirgelwch i'w ddatrys, ym marn y gohebydd Huw Peris, ond a fydd ymyrryd yn costio'n ddrud iddo?