Dere i Dyfu gyda Dewi Draenog a Beca Broga
Llyfr lliwgar, llawn ffeithiau a lluniau i helpu plant dan 7 oed i dyfu blodau, ffrwythau a llysiau. Dangosir hefyd sut i ofalu am yr ardd, yng nghwmni dau gymeriad bach hoffus, Dewi Draenog a Beca Broga. Mae Adam Jones yn wyneb cyfarwydd ar y teledu ac ar y cyfryngau cymdeithasol, lle mae'n postio cynghorion garddio dan yr enw @adamynyrardd. Llyfr arbennig i bob plentyn.